Ffair Sillafu provides the perfect opportunity to improve spelling of commonly used Welsh words.
Mae Ffair Sillafu yn rhoi’r cyfle perffaith i wella sillafu geiriau Cymraeg cyffredin.
Beth am wella eich sgiliau sillafu Cymraeg drwy gymorth atyniadau’r ffair? Dyma ap ar gyfer plant Cynradd. Mae yma nifer o gartwnau cyffrous sy’n gwneud y dysgu’n hwyl. Dewch i weld y llithren lithrig a’r stondin saethu’r hwyaid sy’n creu’r awyrgylch! Mae’r tair lefel yn dilyn yr un patrwm ond mae’r geiriau’n mynd yn anoddach wrth i chi symud ymlaen. Ym mhob lefel, cewch gyfle i weld y gair yn gyntaf a chlywed sut mae ei ynganu’n gywir. Yna, rhaid i chi ddewis llythrennau er mwyn llunio’r gair. Yn olaf, rhaid teipio’r llythrennau eich hunan.
Gyda’r system sgorio, gallwch gymharu eich canlyniadau chi â rhai eich ffrindiau. Lawrlwythwch yr ap heddiw er mwyn dysgu mwy!

Show More